Gwaith Cerrig
Gallwn ddarparu gwasanaeth i adeiladu mewn mathau amrywiol o garreg neu cynnal a chadw waliau cerrig presennol sydd wedi eu difrodi.
Gwaith Brics
Gallwn godi waliau neu atgyweirio rhai presennol, creu leininau twnnel a gwaith cerrig addurniadol. Gallwn hefyd adnewyddu gwaith brics a gwaith maen mewn phrosiectau adfer.
Addasiadau
Mae’n bosib i ni drawsnewid ysgubor yn gartref gan roi cymorth pensaernïol, arweiniad ar gyfer cynllunio a threfnu danfoniadau er mwyn trawsnewid prosiect o’r fath yn effeithiol.
Tai Gwydr
Dyma ddull gost effeithiol o gynyddu'r gofod yn y cartref, Wrth ychwanegu mwy o oleuni i’r cartref, gall drawsnewid edrychiad a theimlad adeilad er gwell.
Estyniadau
Gall estyniad fod yn ffordd effeithiol i ddatrys problem gwagle heb orfod symud oddi cartref. Fel hyn hefyd, mae’n bosib osgoi gorfod talu dyletswydd stamp, ffioedd cyfreithiol a phrofi’r holl straen.
Adnewyddiadau
O adeiladau rhestredig Gradd 1 neu 2, gallwn ddarparu gwasanaethau o ansawdd i ddod ag eiddo yn ôl i'w gyn-ogoniant. Byddwn yn ystyriol o gadw cymeriad adeiladau gwreiddiol, ond ar yr un pryd yn gallu ychwanegu addasiadau modern i weddu’r cwsmer.
Gwaith tirlunio
Gall ail greu gardd flinedig wneud gwahaniaeth sylweddol iawn i eiddo. Wrth ddarparu edrychiad gwbl wahanol i’r ardd, mi fydd yn eich caniatâu i fwynhau'ch cartref tu allan, yn ogystal a thu mewn.
Gwaith ar simneai
Gallwn adnewyddu simneai yn ogystal a chreu lle tan o’r newydd yn defnyddio unai cerrig neu frics. Mae lle tan yn nodwedd hanfodol er mwyn creu ffocws ac ychwanegu gwres i’r catrref.
Adeiladau Newydd / Hunan / i fesur
Byddwn yn ceisio am ein gorau i ddod a’ch gweledigaeth yn fyw ac adeiladu cartref sy’n addas ar gyfer eich anghenion, yn union fel a ofynir i ni.